Gwleidyddiaeth |
---|
Safbwyntiau |
Geirfa |
Maes gwyddorau cymdeithas yw economeg wleidyddol neu economi wleidyddol sydd yn ymdrin â'r perthnasau rhwng unigolion a chymdeithas a rhwng y farchnad a'r wladwriaeth, gan dynnu ar ddulliau a damcaniaethau economeg, gwyddor gwleidyddiaeth, a chymdeithaseg. Mae union ystyr yr enw wedi newid ers yr 17g, ond gellir cydnabod yn fras tri thraddodiad sydd wedi diffinio economeg wleidyddol: yr ysgol glasurol, Marcsiaeth, a'r maes modern sy'n defnyddio ystadegaeth a dulliau modelu i brofi rhagdybiaethau ynglŷn â pherthynas y llywodraeth â'r economi.[1]
I raddau helaeth, economeg wleidyddol oedd yr hen enw ar y ddisgyblaeth a elwir bellach yn economeg. Adlewyrchai'r enw gyd-destun hanesyddol astudiaethau economaidd yr 17g a'r 18g, pryd ystyriai materion economaidd yn rhan o fyd y llywodraeth. Prif ddiddordeb meddylwyr y cyfnod hwnnw oedd i gyfoethogi'r wladwriaeth er budd grym cenedlaethol a'r gallu i ennill rhyfeloedd. Ers y 19g, rhoddwyd mwy o bwyslais ar yr unigolyn yn economeg a'i statws fel gwyddor ffeithiol ac ymarferol yn hytrach na maes normadol, gwleidyddol.
Yn yr oes fodern, gall economeg wleidyddol gyfeirio at farnau economaidd y gwyddonydd gwleidyddol neu farnau gwleidyddol yr economegydd. Rhoddir yr enw "economeg wleidyddol newydd" ar astudiaethau sydd yn canolbwyntio ar y cymhellion gwleidyddol sydd yn ysgogi polisi economaidd. Fel rheol mae gwleidyddion yn pryderu mwy am ddosbarthiad incwm yr etholwyr, a lobïwyr yn becso am ddiddordebau ariannol eu cyflogwyr, nag yr ydynt am effeithlonrwydd polisïau economaidd.[2]